Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022
Amser:
09.34 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12858
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Tori Morgan, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Andrew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Steffan Roberts, Llywodraeth Cymru Victoria Jones, Llywodraeth Cymru Gareth Bevington, Llywodraeth Cymru James Owen, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lara Date (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhun Davies (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Sally Jones (Swyddog) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon
1.3 Datganodd Sam Kurtz AS fuddiant fel cyfarwyddwr yr elusen Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, ac fel cadeirydd Clwb Fferwmwyr Ifanc Sir Benfro.
2 Papurau i’w nodi:
2.1
2.1 Llythyr gan Aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac Aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
2.2 Llythyr gan Andrew RT Davies AS
2.3 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
2.6 Llythyr gan Undeb Amaethwyr Cymru
2.7 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.8 Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyfathrebu y Gymdeithas Siopau Cyfleustra
2.9 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.10Llythyr at Weinidog yr Economi
2.11Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.12Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.13Llythyr gan Weinidog yr Economi at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
3 Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd
3.1 Atebodd Nick Fenwick ac Tori Morgan gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor
4 Craffu ar waith Gweinidogion – Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
4.1 Atebodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a swyddogion Llywodraeth Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.
4.2 Bydd y Gweinidog yn cysylltu â’r Prif Swyddog Milfeddygol ynghylch unrhyw gamau y mae Lywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd ynghylch bridiau cŵn ag wynebau gwastad (brachycephalic) ac yn ysgrifennu at y pwyllgor. Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at y Pwyllgor i gadarnhau manylion y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU ar ymestyn y cynllun rhyddhad treth tanwydd gwledig i Gymru.
5 Craffu ar waith Gweinidogion – Gweinidog yr Economi
5.1 Atebodd Gweinidog yr Economi a swyddogion Llywodraeth Cymru gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
5.2 Cytunodd y Gweinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am a) sut mae arian cymorth busnes Coronafeirws wedi cael ei ddefnyddio a b) yr arian a ddychwelwyd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Preifat
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.